Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Hence it came that this soft Harp so long hath been known To mingle love's language with sorrow's sad tone, Till thou did'st divide them, and teach the proud lay, To be love when I'm near thee, and grief when away."

Yr oedd ei lais yn doredig, a gadawai'r nodau uchaf i'r crwth eu chwareu ei hun. Canodd aml i alaw Wyddelig i ni. Yr oeddynt yn bur dlws a nodweddiadol o'r Gwyddel, ond alawon Cymru o bob alawon,—"Dyffryn Clwyd," a "Thoriad y Dydd,"—yw y mwyaf swynol i mi.

"Mae henaint yn gwneyd fy llais yn waeth," ebai'r hen grythor, "a'm crwth yn well. Cana di, Nora bach?" Canodd yr eneth fach yn swynol a naturiol. Gwyn fyd na bai pob merch yn canu mor ddirodres a hon,—dim o'r ffug-wên a'r mosiwn. Ond mor naturiol yr olwg arno oedd yr hen wr pan y canai ei grwth iddi. Elai y bwa'n naturiol o hono ei hun dros y tannau ganddo, cauai yntau ei lygaid yn dyn,—cyflyma y canai