tybiwn braidd mai rhyw Isaiah oedd yn eistedd ar gwr cwmwl du hedai uwch ben, ac yn gorchymyn "Cenwch nefoedd, gorfoledda ddaear, a bloeddiwch chwithau fynyddoedd ganu." Raid i Greawdwr y bydoedd ddim bod mewn angen moliant, —mae ganddo gyfoeth dihysbydd yn ei fynyddoedd o ddefnydd cân. Os blina hen deulu'r codwm ei foliannu tyr y creigiau allan i ganu,—"Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y llefai y cerrig yn y fan."
Ymhellach i fyny 'roedd bwthyn,—hafoty. Ar ben y drws safai y bugail, yr oedd heb orffen cau ei esgidiau, heb wasgod am dano, nac ond un bresus wrth ei lodrau clytiog, a rhwng ei wefusau cysglyd yr oedd cetyn pridd a chauad tyllog arno.
"Myrff!" ebai wrth Befan, "tyrd a blewyn o dy baco?"
"Dydw i ddim yn smocio," atebai hwnnw.
Hir y parhaot,—bod mewn mynydd fel fi heb fygyn sydd yn arw, ac wedi arfer ei gael,—nid yw colli pryd yn ddim wrth hynny."