Yr oedd ei fwthyn yn ddigon del a glân, ac er mewn lle unig elai ugeiniau o bedestwyr heibio iddo'n ddyddiol. Yr oedd plant bach fel blodau rhwng y creigiau yn chware, a rhedai ambell un atom gan waeddi,—
"Shamrock sir, shamrock!" cherdded wrth ein hochr a gofyn elusen am y ddeilen fach gron y tybia'r Gwyddel y byd o honi. Croesai ein llwybr y nant droion dros bontydd anghelfydd, a dilynem ef igam-ogam rhwng cerrig anferth, fel welir ym mwlch Llanberis, dreiglodd o'r mynydd oddi arnom, ac wedi deng munud o gerdded dygn safem ar ben rhediad dwr, a chawsom egwyl i ffarwelio â'r Gogledd cyn edrych ar y De. O olygfa unig drannoeth diliw! cerrig a chreigiau wedi eu taflu ymhlith drafflith fel petai mynyddoedd bobtu'r Bwlch wedi bod yn brwydro â'u gilydd. Fel darlun o wawd a dialedd y safai mynydd y Purple; yr oedd yr eryr olaf wedi gadael ei nyth arno, ac ymgydiai y griafolen unig oedd