Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyngom a'r goleu ar ei grimell am graig rhag syrthio. Parai yr heulwen dywynnai ar gopa y Tomies i'w gysgodion ymddangos yn fwy trwm ac erchyll, a dyrchafai y Macgillicuddy Reeks eu pen hunanol yn uwch i'r nefoedd yn unig er dangos hagred a gwyllted oedd. Rhwng yr erchwynion o fynyddoedd hyn gorweddai y Llynnoedd Duon mewn breuddwyd,—mor ddu fel na feiddiai dim grychu eu gwyneb prudd, a chyda eu glàn yr oedd llwybr llychlyd i'r mynydd. Y fath ddistawrwydd llewygol! Y fath olygfa oer,—droai haf yn aeaf ac a roddai wynrhew yn Awst ar fy mysedd! Dacw deithiwr unig yn cerdded y llwybr gydag ochr y llyn. Wrth ei weled daeth pererin Bunyan yn fyw i'm meddwl, a chofiais am hen lyn oer arall y bydd raid i mi ei deithio'n unig cyn bo hir,—y glyn garw hwnnw sydd o flaen pechadur pan dery ei draed wrth y mynyddoedd tywyll. A mi yn brudd ryfeddol clywais swn canu,—o lle deuai nis gwn, ond tybiwn mai'r pererin unig