Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

welais yn y glyn ganai; ond clywwn y geiriau yn eglur—

"Ymdeithydd ydwyf gyda thi,—alltud fel fy holl dadau. Yr Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed, canys yr wyt ti gyd â mi,—dy wialen a'th ffon a'm cysurant."

Edrychais eilwaith ar Fwlch Dunloe a gwelwn wyrddlesni tragwyddol ar fryniau y gogledd drwyddo, a chwmwl gwyn fel aden angel yn sefydlog uwch ei ben, ac adlewyrchai ei liw ar y glyn du. Cofiais am gariad Gŵr na leiha, ac am waed ddiffoddodd fellt Sinai, ac aeth y glyn arall yn oleuach a lleihaodd fy ofn, a theimlwn y gallwn ei gerdded dan ganu.

Tua'r de 'roedd bryniau geisient ymguddio yng nghysgod eu gilydd,—golygfa gynhyrchai fwy o brudd-der nag o ofn. Oddi arnom rhedai nant ddu, ond eu hewyn, elwir yn Gearhameen, neu'n afon Cummeenduff, o "lyn y brithyll coch,"—Lough- na-bricdreag. Rhy flinedig oeddym i gerdded y glyn prydferth i'w