Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tharddiad. Y Glyn Du yw enw'r cwm yma,—Cummeenduff Glen, neu Coom-a-Dhur, a therfyna yn sydyn yn y mynydd,—fel petai y cwmni a'i gwnai wedi torri ar ganol ei wneuthur. Cyflymai'r nant i'r môr, a dilynem ninnau hi â dim ond brwyn, defaid, a Duw, yn ein hamgylchu.

Gwrym! Dacw haid o ferched! Gwneyd mawn y maent,—beth arall allai eu dwyn i le mor anghyfannedd? Erbyn mynd yn nes atynt yr oedd yno luaws gyd â hwy,—Saeson ac Americaniaid, ar eu taith i gyfarfod cwch i'w cario yn ol i Killarney. O'u cylch yr oedd merched y mynyddoedd yn ceisio gwerthu rhyw fân bethau,—catiau, cadachau, hosanau, wisci, a llaeth. Amrywiai y merched o bymtheg i ugain oed; yr oeddynt yn brydferth, ond nid yn dal. Gwallt fel y nos oedd ganddynt, aeliau trymion a dau lygad llon danynt, a gwrid-goch iawn oedd eu gruddiau. Shawl fawr feddent dros eu pen, ond er eu bod yn gwerthu hosanau yn daer i ereill, yn droednoeth goesnoeth y