cerddent hwy. Yr oeddynt yn ffraeth iawn, ond nid yn dafod-ddrwg,-yn weddus, pur, a diymwad; ac nid yn fuan yr anghofia y Sais anfoesgar y wers gafodd gan un o honynt, pan dybiodd oddiwrth eu gwisg ddieithr eu bod yn amgen i hynny.
Yr oedd y dyrfa, pan aethom atynt, wrth garreg fawr safai ar garreg arall, ac er ei bod yn dunelli o bwysau, nid oedd ond modfedd o honi yn cyffwrdd â'r garreg oedd dani; a dyma hanes y garreg yn ol y Gwyddel a'n harweiniai,—
"Hon, jintlmen, yw 'Carreg Loghan,' neu 'Graig y Glorian.' O ba le y daeth, nid oedd dysgedigion y dyddiau aeth heibio yn gwybod, ac yn fyr nid wyf finnau, sydd yn byw ar eu hol hwy, 'n gwybod ychwaith. Y dyb yw mai'r Derwydd a'i gosododd yma.
Mae'n ugain troedfedd o dryfesur, a phwysa dunelli lawer. A'r rhyfeddod yw, jintlmen, ei bod wedi ei gosod mor gywrain, ac i sefyll ar cyn lleied o'r garreg sydd dani, fel y gellir ei siglo'n hawdd." Tarodd ei law arni a siglodd y