garreg. "Ac yn wir," ebai wedi hynny, "gallai aderyn ond anadlu ei siglo'n hawdd, a'm barn i, jintlmen, yw mai y bonheddwr gordeddodd raff o dywod ar draeth Bau Castle Gough a'i rhoddodd yma."
Deuai llynnoedd Killarney a'i gilfachau coediog i'r golwg, ac ambell i fwthyn unig yma ac acw, ac aethom gyda'r lluaws dros waen gorsiog tua'r ffordd oedd danom. Dilynai y merched ni, a phoenent rywun yn barhaus, ac ebai un lygadlon with Befan,—
"Cymerwch wydriad o wisci a llaeth."
"Y fi! Fyddaf fi ddim yn yfed dim cryfach na the."
"Choelia i mohonoch," ebai'r eneth, "neu ni fuasech mor lân a phrydferth pe buasech yn llwyrymwrthodwr!"
Ac adlewyrchai ei gwên ar wyneb Befan fel y credwn mai ef wenai dan y compliment. Cefais glywed y frawddeg ddiniwed aml i waith cyn y nos, ond pan yn adrodd yr hanes i gorach o Sais deugain oed,—dyfodd