Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny wnaeth yn ei ddeng mlwydd cyntaf, ac i hwnnw ddweyd iddo yntau hefyd gael yr un compliment gan y "feri wan," ni sibrydwyd y frawddeg wrthyf mwy. Wedi i'r ferch weld nad oedd modd torri ein syched,—

"Rhoddwch swllt, ynte," ebai, "am chwe cheiniog i mi?"

"I be hynny?"

"Er mwyn i mi gael fy arian priodi;' yr wyf yn ddeunaw oed—bydd y mwyafrif yn priodi yr oed yma. A rhaid i mi ennill coron o arian cyn priodi—dyna yr arferiad."

Yr oedd pont dros afon rychiog yn ymyl a rhaid oedd talu swllt am groesi hon, a bu hynny yn foddion i ni gael gwared â'r merched a'n hebryngai dros y mynydd. Safai tyrfa o Wyddelod, bugeiliaid a llogwyr ceffylau wrth y bont, a siaradai y meibion a'r merched yn ddi daw, a deuai eu swn fel su cacynen mewn bys coch ar ein holau. Yr hen Wyddeleg sydd mor hoff ganddynt siariadent, ac yn yr iaith honno y clywais ysgwrs olaf bugeiliaid y