mynyddoedd. Deuai y llyn uchaf i ymyl y bont, ac mewn cilfach ynddo yr oedd cychod i gario y gwŷr a'u llogodd adref i Killarney. Yr oedd yn braf enbyd i rwyfo, ond cofiem am yr ystorm sydyn a'n goddiweddodd pan yn croesi o ynys Innisfallen, fel nad oedd fawr siomedigaeth gennym pan ddywedodd y cychwr nad oedd ganddo le i ni. Cychwynasom ar hyd llwybr lleidiog anhygyrch. Brithid y llyn orweddai wrth ein hochr â mân ynysoedd. Yr oedd coed bythwyrddion ar ynys Mac-Carthy Moore, ac ambell gedrwydden dal yn eu mysg.
Dacw ynys Ronayne, y Sais gododd dŷ arni er cael llonyddwch a gorffwysfa; ac Ynys yr Eryr lle nythai yr aderyn hwnnw gynt; ac ynysoedd y Dderwen, y Juniper, a'r Arbutus, elwir felly am fod coed o'r un enw'n tyfu arnynt, ac yn edrych arnom yng nghwr isaf y llyn gwelem ynys Llygad Colman.
Codai "Nyth yr Eryr" yn fynydd trionglog rhyngom â'r gogledd, coed yn dryfrith gylch ei odreu a chreigiau ysgythrog yn