Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid oedd ond gwneyd y goreu o'r gwaethaf.

"Ioan ab Owen ab Owen ab Gruffudd ab Huw ab Adda."

Edrychodd y dyn ar yr eneth, a'r eneth ar y dyn, a'r ddau arnom ninnau, a dywedodd fy nghyd garcharor ei enw yntau,—

"Befan ab Tomos ab Rhisiart ab Ifan ab Gomer."

Edrychodd y ddau ar eu gilydd fel geifr ar daranau, gan fethu dyfalu beth geisiem ddwedyd. Tynnodd y gŵr tew anadliad drom, a gofynnodd trwy ei chymorth,—

"O ba le y deui ?"

"Deuaf o Landlysafobenllynym-meirionnydd," ac agorai genau'r Albanwr yn fwy fel y deuwn i ddiwedd y frawddeg. Gwelodd, er cael

rhan o'n hanes, nas gallai ei ddeall, a rhoddodd ei ymgais i fyny trwy chwerthin yn hoew, a dangos llwybr a'n dygai ni i'r ffordd fawr. Ffordd Tywysog Cymru yw enw honno, a phe dilynem hi elem i Kenmare, a thros fynyddoedd Caha i Glengariff, lle glaniodd y bod dynol cyntaf, ebe