Pat, ddeugain niwrnod cyn y diluw, mewn cilfach gynnes ar lan y môr, yna i Bantry a'i thraeth gwyn lle glaniodd aml i elyn, cyn cyrraedd Cork. Ond nid oedd wiw meddwl hynny, gan fod yr haul bron ymguddio am y mynydd â ni, a milltiroedd maith rhyngom a Killarney. Unig iawn oedd y ffordd honno. Oddiarnom mae coed lawer ac o'u canol clywn rû rhaiadr Derrycunnihy, elwir felly ar enw cawr enwog nad oes amheuaeth parthed ei fodolaeth,—onid yw ol ei droed i'w ganfod eto ar y graig? Yr ochr isaf mae'r llyn, ac Ynys y Dderwen a'r Carw ynddo. A y ffordd trwy goed tlysion a lleoedd geirwon a thrwy dynel dorrwyd mewn craig iddi, a pharhai amrywiaeth golygfeydd i flinder gilio. Culhai dyfroedd y llyn uchaf yn afon, ac ymarllwysai'n ffrwd wen dan bont hen i'r llyn isaf, neu'r rhan o hono elwir Llyn Muckross, a chyda glan hwnnw y dirwynai ein ffordd. Ar ochr craig mae carreg wen, a thebyg iawn i garw'n gorwedd yw'r garreg honno, a dyna'r rheswm paham y
Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/135
Gwedd