gelwir hi'n "Garw Gwyn." Yr oeddym wedi gweld "tamed" y Gŵr Drwg, a gwelem ynys elwir eto ar ei enw yng nghanol y llyn. Tyfai gormod o goed arni i ni weld babellai y gŵr hwnnw ynddi, ac yr oedd y berthynas yn rhy bell a'r dwfr yn rhy ddwfn i ni allu mynd iddi. Gadawsom hi gan fethu dyfalu pam yr oedd ei choed yn dduach eu lliw na choed ereill, os nad oedd y gŵr a u plannodd wedi rhoddi huddigl yn eu gwraidd. Aethom trwy fawn a cheulenydd a choed am hir amser cyn dyfod at adfeilion Mynachdy Muckross. Tebyg yw'r Abaty hwn i rai Cymru,—muriau adfeiliedig ac ychydig o fwâu'r ffenestri'n sefyll; coed yn tyfu o'i ddeutu a choeden bruddglwyfus yn agos iddo. Gorchuddiai glaswellt y llawr lle byddai gwledda gynt, a gwnaeth eira aml flwyddyn garreg yr aelwyd yn oer. Syrthiai carreg ar ol carreg o'r mur er ymgais yr eiddew i'w cadw yn eu lle. Yn un rhan o honi mae beddau, a dyma'r darn mwyaf cydweddol â'r adfeilion,—huna MacCarthy Mort a'r
Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/136
Gwedd