O'Donoghue yno, a hawdd cydsynio â'r llinellau olaf oedd ar ei feddfaen,—
Oh! ere you turn, one warmer drop bestow—
If Erin's chiefs deserve thy generous tear,
Heir of their worth, O'Donoghue lies here.
Yn ochr gwŷr y cledd gorweddai gwŷr heddychlawn, a gwell fuasai gennyf, pe modd, gael ysgwrs gyda y rhai hynny, y mynachod fu fyw a marw yno,—ond
"Yn fy siom mi gaf symud
Dim ond daear fyddar fud!"
Yr oeddym heb fwyd er y glasddydd a thrymder mynwent wedi ein gwneyd yn brudd. Gadawsom y brif-ffordd ar hyd llwybr i edrych am dŷ ac ymborth, cyn hir daethom at dŷ a'i do yn wael. Yr oedd drws y ffrynt yn agored a drws y cefn oedd ar ei gyfer felly hefyd, ac yn hwnnw safai gwraig. Pell o gynyrchu archwaeth at fwyd oedd golwg y wraig yma. Safai hi yn un drws, safem ninnau yn y llall, a scwrsiem felly. Anhawdd oedd dweyd yr adeg hyn pa un ai lleihau ynte cynyddu