wnai'r pellter rhyngom, ond dan siarad cawsom ein hunain ar ganol y gegin, a'r wraig garedig yn goleu canwyll i aros i'r tecell ferwi.
"Wedi bod trwy Fwlch Dunloe ac heb fwyd byth," meddai gan osod cwpanau tê ar fwrdd. Pan welais y dysglau hynny ciliodd fy newyn rywfodd; a dywedais mai'm cyfaill deimlai angen ymborth fwyaf.
"Ie, llwyd ddigon yw ei wedd," meddai, tra y taenai ymenyn a blew ar ddarn o fara du. Talodd yr awgrym roddais iddi yn dda i mi, ni roddais boen i'w theimladau trwy fethu bwyta, a throdd ei holl sylw at Befan, ac ymdrechai trwy or-garedigrwydd dorri ei newyn â'i hymborth.
"Bendith Duw arnoch," meddai'r wraig pan ffarweliem â hi, "os byth y deuwch i'r cyffiniau trowch i mewn am ddysgliaid o dê."
Yr oedd y nos yn prysur oddiweddyd y dydd, a throisom adref gan feddwl am ddyddiau fu'n hanes yr ynys.
Pan sefydlodd y Sais gyntaf yn y Pale,—cylch Seisnig ar oror yr