Iwerddon sydd eto'n para yn swmbwl poenus i'r Gwyddel,—er yn byw yn ei ymyl, ychydig odiaeth wyddai am y Gwyddel, a llai na hynny oedd ei barch tuag ato, a'i gydymdeimlad âg ef. Nid oedd yn bechod i Sais ladd Gwyddel gan nad oedd dan gyfraith Lloegr, ond un y Brehon,—y Senchus Mor,—sef y cyfreithiau fel y llefarwyd hwy gan yr Ysbryd Glân trwy enau y Brehon a gwir feirdd Erin. Ond tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg daeth y gorthrymwyr i fabwysiadu dull y trigolion o fyw. Siaradent y Wyddeleg ddiystyrrent gynt, a gwisgent wisg y Gwyddel. Fel yntau gadawent eu gwallt dyfu'n hir ac ni eillient, ac nid oedd raid iddynt wrth gyfrwy i farchogaeth, "aethant yn fwy Gwyddelig," ebe'r croniclydd, "na'r Gwyddelod eu hunain." Er eu rhwystro, pasiwyd deddfau'n gwahardd i Sais efelychu Gwyddel mewn gwisg ac iaith neu ddefod. Ni chai farchogaeth heb gyfrwy, a rhaid oedd iddo eillio ei ên isaf o leiaf unwaith yn y pythefnos, ac ar y rheolau hyn rhoddwyd
Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/139
Gwedd