Poynings, roddodd lyffetheiriau tyn ion am y Gwyddel yn Senedd Drogheda. Dechreuwyd dychrynnu arglwyddi'r Pale trwy gyhuddo Iarll Kildare o gyduno â'i frawd mewn teyrnfradwriaeth. Anfonwyd ef i Loegr, ond maddeuwyd iddo, a gosodwyd ef mewn swydd bwysig,—gwnaethpwyd y poacher yn gipar, a thalodd hynny yn dda. Bu'n gefnogwr aiddgar i Harri ac ymladdodd frwydr yn Knocklow yn erbyn ei elynion. "Nis gall holl Iwerddon reoli Iarll Kildare," meddai'r brenin, "felly rheoled ef yr Iwerddon." Wedi hyn, yr oedd Harri VIII. a Wosley yn eiddigeddus iawn o Iarll Kildare, am ei fod mor boblogaidd. Galwyd ef i Loegr deirgwaith i roddi cyfrif o'i gysylltiad â'r gelyn, ac yn y diwedd dywedwyd wrth ei Wyddelod ei fod wedi ei ladd. Cododd ei fab Thomas pan glywodd hynny mewn gwrthryfel i ddial marwolaeth tad. Cyn hyn yr oedd y Gwyddel a'r Sais yn bur gyfartal mewn brwydr; ond yn awr yr oedd y pylor yn troi'r fantol o du y Sais, a syrthiai'r hen amddiffynfeydd oedd gynt yn anchwaladwy
Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/142
Gwedd