Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SABOTH YN NUBLIN.

NID oedd yr haul eto wedi llwyr wasgaru niwl y bore, orweddai yn ysgafn ar donnau bau Dublin, pan

safwn, bererin unig, ar lan y Liffey, yn syllu ar ei dwfr yn ceisio treiglo ymlaen yn erbyn y môr a'i llanw oedd dan y niwl yn ei atal.

Mor nodweddiadol, tybiwn, o hanes yr Ynys yw yr ymdrech rhwng y ddeu-ddwr, hanes ymladd am ganrifoedd â gormeswr ymguddiai beunydd dan gwmwl y niwl!

Mae yn taro deg! Awr dechreu y moddion yng Nghymru! Chwythai y gwynt i fyny yr afon, a thybiwn glywed llais gwyryfon Môn yn canu:

"Tyr'd i fyny o'r anialwch,
Wedi aros yno 'n hir,
Sypiau grawnwin mawrion, addfed,
Sy 'n dy aros yn y tir."


Ond yr oedd y mil tonnau rhyngof a hwy yn ormod eu su, a berw'r bobloedd o'm cylch, yn rhwystr i hynny