Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei enau, pa un bynnag ai siarad wnai ai peidio. Deallai mai dyeithr-ddyn oeddwn, a gwnai ei oreu i ychwanegu fy ngwybodaeth.

"Dacw ddelw O'Connell," ebai. "Ei edmygwyr a'i cododd ar ganol y stryt o barch iddo. Mae'n hardd, ond nid yw yn hanner ddigon felly i un a wnaeth gymaint dros ei wlad ag a wnaeth ef."

Delw wir ddymunol yw, a hanner cant o ddelwau llai o'i chylch. Yr amlycaf o honynt yw Erin, geneth brydferth sydd yn cynrychioli yr Iwerddon. Mae gwên blentynaidd ar ei grudd, a dyrchafa ei llaw—y llaw fu yn rhwym cyhyd yn y cadwynau toredig wrth ei thraed—at ei rhyddhawr.

"Dacw bilar Nelson. Mae yn 130 troedfedd o uchder. Ceir golygfa eang o'i ben. Oes gennych ch'i gofgolofnau yng Nghymru?"

Aeth ei ofyniad fel saeth i'm calon, wrth feddwl belled oedd y Cymro ar ol y Gwyddel yn hyn. Er hynoted ei hynafiaid, ni phrydera efe am gofadail na beddfaen iddynt.