Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yng Ngwlad y Gwyddel.
1.—CYCHWYN.
MAE'N hanner nos, a'r môr yn fyw dan y lleuad hanner llawn. Y mae awyr glir dryfrith o ser uwch ben; ond cyfyd cwmwl du fel angau o'r gorwel ar ororau'r Iwerddon. Dringai'r llong un don er disgyn yn afrosgo dros don arall, ac fel y gadawem y lan, ai'r tonnau'n fwy a'r goleuadau amryliw ar draeth Lloegr yn llai amlwg. Ar y dec, yng nghanol rhaffau a phecynnau, yr oedd teulu Gwyddelig tlawd, a