cerryg marmor gwyn yn wynach trwy eu dail tywyll. Ac nid oes un pren mwy cydnaws na'r yw i dyfu ymysg y meirw. Yr oedd unwaith yn gysegredig i dduw'r gwyll. Cred y Pabydd eto fod a fynno â'r marw, a rhoddai rybudd yma ac acw ar gangau y coed i'r un elai heibio i beidio a'u cyffwrdd.
"Na chyffwrdd y prennau,—
Cysegredig ydynt i'r marw."
Cleddir y Protestaniaid mewn man neilltuol o'r fynwent, ond Pabyddion yw mwyafrif y rhai hunant yno, a hawdd iawn gwahanu bedd y naill oddiwrth y llall. Symlrwydd yr efengyl nodweddai un; balchder a thrahauster y Babaeth hynodai'r llall. Gwelais gapel bychan o farmor gwyn ar un bedd, a chroes glaerwen o'r un defnydd ar un arall. Ar ambell garreg yr oedd D.M., D.O.M. neu D.S.M.—Deis Sacris Manibus, yn dangos mai Pabydd sydd dani yn huno, ac mai i dduw'r gwyll y gorchymynnodd ei ysbryd. Ar feddfaen arall yr oedd I.H.S. a R.I.P., yn dyweyd mai yr Iesu oedd Gwaredwr yr un orweddai yno, ac mai mewn heddwch y gorffwysai. Wrth gerdded felly ymhlith y meirw daethum i fryn gwyrddlas crwn, yn dryfrith gan rithod a blodau gwyw.