Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

droi'n ariandy. Am y ffordd saif Coleg y Drindod a delwau o Burke a Goldsmith o'i flaen. Eiddil a gwan yw'r olwg ar Goldsmith. ac fel llawer arall ddarlunia mor fyw yn ei Deserted Village, bu farw fel alltud o'i wlad, er dymuno cael ei gladdu yn y man y ganwyd ef.

"I still had hopes, my latest hours to crown,
Amidst these humble bowers to lay me down,
And as a hare, whom hounds and horns persue,
Pants to the place from whence at first she flew.
I still had hopes, my long vexations pass'd,
Here to return,—and die at home at last."


Nid oes ond un tŵr o'r hen gastell gododd Ioan Frenin, tua 1213, yn aros, a phe meddai dafod dywedai hanes aml frwydr waedlyd.

Ni chefais ond cipolwg arno a'r gwyliwr gerddai'n barhaus wrth y Porth, gan fod tair cloch ar ddeg yr Eglwys Gadeiriol yn dystewi. Yr oedd y canu'n swynol ryfeddol yn yr Eglwys, a gwnai hynny i fyny am y bregeth sech ddiraen wrandewais. Wedi gwel'd bedd Strongbow, da oedd gennyf droi am fy llety. Ataliwyd fy nghamrai am ennyd gan dorf anferth wrth lysoedd y Gyfraith,