Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aifft ac Arabia y cychwynnodd tua'r gorllewin,—fel llawer llwyth ar ei ol. Teithiodd ochr Ewrob gyda thraethellau Môr y Canoldir, ac er ei ymlid gan lawer gelyn mae. eto'n fyw. Mae'r Iberiad i'w weld yn yr Iwerddon heddyw,—bum yn sgwrsio âg ef pan yn bugeilio ei ddefaid rhwng mynyddoedd Kerry, ac yn torri ystad o wair iddo wrth Fwlch Dunloe. Mae wedi ei erlid i gwr eithaf yr ynys, ac wedi colli ei iaith Hamitaidd yn hollol erbyn hyn, ond mae'n hoff iawn eto o hanes, englyn, a chân. Nid mewn ogof fel cynt y mae'n byw, ty a'i do yn wellt neu lafrwyn sydd ganddo gyda glannau llynnoedd Killarney. Mae ganddo fwy o lestri alcan yn awr nag o rai pridd, ac ychydig arfau haiarn yn lle'r rhai fflint wnai mor gywrain gynt. Daeth y Celt ar ei ol gan ei yrru i'r mynyddoedd a chwalu ei Eblana ar lan y Liffey, a chodi yn ei lle dref arall a'i galw'n Bally-ath-Cliath.

Erbyn hyn yr oedd y llong yn troi i enau'r afon, a'r teithwyr ar y