Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwrdd, pawb yn fyw, ond nid mor fywiog a siaradus a phan welais hwy gyntaf.

"Dacw fynydd y 'Pwys Siwgwr,'" ebe Gwyddel wrthyf, "o ran ei ddull pigfain y gelwir ef felly,—nid am fod siwgwr ynddo. Y goleudy yw hwn, rhag i'r llong daro ar y creigiau cuddiedig." "A oedd yn goleuo, tybed, pan laniodd y Daniaid?"

"Y Ffeniaid! ofynsoch chi," ebe'r gwr llygad-wibiog yn llawen.—"O'r Daniaid. Wn i ddim am danyn nhw."

Mae llawer canrif wedi mynd heibio er pan hwyliai Daniaid yn eu cychod gwaelod—wastad gylch gororau Cymru a'r Iwerddon, a gwlaw llawer blwyddyn wedi disgyn ar ol eu traed lladronllydd, fel mai anhawdd dangos y man y glaniasant gyntaf; ond dywed hanes iddynt. fordwyo i enau'r Liffey, chwalu hen dref yr Iberiad a'r Celt, a chodi ar ei lludw ddinas alwyd ganddynt yn Dubh-lynn,—y Llyn Du. Gormesodd y Daniaid y Cymro nes i