Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod gennym daith bell drannoeth, draws yr ynys i lynnoedd Killarney.

Yr oedd gorsaf Pont y Brenin yn orlawn fore Llun, ac nid hawdd. oedd cael lle yn y gerbydres gyflym a â'r llythyrau i Queenstown; ond cawsom le cyn hir, diolch i ffawd nad oeddym yn dew, ac i dlodi nad oeddym yn baciog. Cychwynnodd y tren yn araf, er fod dau ddyn tew anferth yn gwaeddi am iddo stopio, a gwr aml baciog yn galw'n ofer am borter.

"Diolch," ebe Bevan yn ddigon. priodol, "nad wyf fi fel y rhai hyn." Aeth Phoenix Park,—lle llofruddiwyd Cavendish a Burke,—a'i goed a'i binaclau o'r golwg, a llithrem ymlaen trwy wlad dlos, oedd yn fwy gwerdd nag arfer ar ol y gwlaw y noson cynt. Gwelsom y Tŵr Crwn, —hen gastelli sydd a fynnont gymaint â hanes yr ynys, y cyntaf wrth bentref Clondalkin. Hwn yw'r perffeithiaf yn yr ynys, ac er fod y gwylwyr fu ynddo'n huno'n dawel, mae ef eto yn parhau i wylio'r gwastadedd, er nad yw'n peri arswyd