Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel cynt i'r preswylwyr. Eisteddai yn fy ymyl Wyddel a'i wisg mor Wyddelig ag a welswn erioed,—clos pen glin a sanau glas cen y garreg; gwasgod bedwar botwm, er na chauid ond un; côt fel un gwas lifre felen hen, a het befar gantal cul goryn isel am ei ben. Gŵr diddan oedd, a dywedodd a danghosodd lawer o bethau i mi.

"Lucan yw enw'r pentref yna," meddai am le prydferth yn y gwas— tad, "lle hynod am chwedlau ac eirin Mair. Mae'n rhy niwliog i chwi weld hen Abaty Celbridge draw. Yno y byddai Deon Swift yn arfer neilltuo, ac acw y mae cartref Esther Vanhomrigh,—y Vanessa gymer ran mor fyw yn ei Cadenus and Vanessa,' a thyf y coed llawryf eto uwch y llecyn y cymerodd rhai o'r ymddiddanion le."

Wedi trafaelio tuag ugain milltir, croesir camlas rêd draws yr ynys o'r afon Liffey i'r Shannon, ac a'r wlad yn llai prydferth er nad yn llai dyddorol. Meddyliwn am sir Fôn, cyn mynd un dydd Gwyl Dewi i'r