Traeth Coch, mai doldir gwastad ffrwythlawn oedd yr ynys honno, a meddyliwn yr unwedd am yr Iwerddon ei bod hithau fel ei henw'n fythol werdd, ond yn lle hynny dyma fi yng nghanol—Cors Allen, mawn, corsydd, a phrysgyll. Mawn orchuddiai'r lle, ac edrychai'r ceulennydd o bell fel chwareli. Torrir y geulan yn ddwfn iawn,—gwelais un yn ddeuddeg mawnen o ddyfnder. Yr oedd y mawn wedi eu "codi," a chollent o'r golwg yn fân dyrrau duon. Deuai'r hen wragedd, —yn bennoeth a throednoeth goes-noeth, gyda throl a mul yno i'w "gwneyd," ac nid yn aml y gwelir y fath nifer o wragedd a mulod. Mawn iawn oedd yno,—gwell lawer nag a ga pobol Mawddwy ar Fwlch y Groes, a ffermwyr Trawsfynydd yn y Feidiog.
"Dacw fynydd Allen," ebai'm cyfaill, am fryn godai dri chan troedfedd uwchlaw crawcwellt melyn y fawnog; yr oedd tŵr ar ei ben crwn ac eglwys mewn coed wrth ei odreu. Sonia Ossian am dano yn un o'i