Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganeuon, a bu'r cawr Finn Mac-Couhat yn byw arno, ebe traddodiad, ac adroddir aml i chwedl am dano, a thebyg iawn ydynt i orchestion Idris Gawr yng Nghymru.

Undonog a gwastad y parhai y daith, ac araf iawn y rhedai'r afon Allen o'r gors. Yr oedd ty to gwellt yma ac acw, a moch, a ieir a gwyddau o'i gylch, a phlant mor fudr a'r moch yn chwareu wrth ei dalcen.

"Curragh Kildare yw'r anialwch yma," ebai'm cyfarwyddwr. "Mae'n chwe milltir o hyd a dwy o led. Tir y Goron yw, ac mae gwersyll digon eang i ddeng mil o wŷr arno. Ar y gair dacw'r milwyr draw!" a gwelwn hwy fel môr o waed yn symud rhyngom a'r goleu.

"Ymladdwyd brwydr yma ryw dro?"

"Dyn do, o dro i dro, lawer ysgarmes waedlyd. Acw y syrthiodd Arglwydd Montemarisco, ac y torrodd Iarll Penfro ei ben yn 1234, ac yma y gorchfygwyd y Gwyddelod dan arweiniad Prior Connell, gan