Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â'r llaw arall mewn matsen, tra y perliai ei lygaid dan ei dalcen cul. Goleuodd y fatsen a dechreuodd danio, a da iddo oedd fod ganddo drwyn helaeth, ynte elai ei ddau lygad yn un gan mor gryf y tynnai ei ddau fygiad cyntaf, a chollwyd ei ben mewn cwmwl o fŵg.

"Dim smocio yma," ebai gŵr sur a gwyneb fel lluchfa eira.

Er holl hyawdledd y gyrrwr gwartheg bu raid iddo roddi ei dân allan, er hynny daliai ei getyn rhwng ei ddannedd duon. Ond yr oedd y demtasiwn yn rhy gref iddo, tynnodd y caead tyn tyllog,—fel caead bocs pupur, oedd ganddo ar ben ei bibell, a thaniodd eilwaith.

"Dim smocio yma, syr," ebe'r gŵr sur.

"Wel, te, os na chaf smocio yn y garets, rhaid i mi gael gwneyd ryw sut, alla i ddim byw."

Yna aeth at ddrws y cerbyd, ac eisteddodd arno â'i draed a'i ben allan, gan fygu fel odyn wrth ei fodd.

Trwy fwg y Gwyddel gwelwn rhyngof a'r de fynyddoedd y Galtee