Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dyma fi," meddai, gan godi ei ben yn sydyn a dal ei law allan,—llaw dystiai mai gweithiwr caled. oedd ei pherchennog, "dyma fi, druan, fel alltud yn gorfod gadael yr Iwerddon,—gwlad sydd mor anwyl i mi. Cyn hir bydd mil o donnau'n curo rhyngof a'r man ym ganed. Gwell fuasai gennyf farw mewn ogof ar un o fynyddoedd fy ynys a mwynhau rhyddid, na'i gadael. Ond heddyw gormes a thrais ddaw yma i'm rhan. Mae gennyf wraig a theulu lliosog i'w cadw, a rhaid i mi droi tua thir y Gorllewin i edrych am le iddynt fyw. Duw am llwyddo!"

Ni holais ychwaneg o'i amgylchiadau; amlwg oedd ei fod wedi dioddef llawer, ac mai nid o'i fodd y gadawai ei wlad. Daeth Deserted Village Goldsmith yn fyw i'm cof, a'r darluniau geir yno o rai cyffelyb i'm cyd—deithiwr.

Gyda i ni adael Knocklong,—gwersyllfa ar y bryn lle bu y Ffeniaid yn ymladd yn ddiweddar, a'i hen gastell adfeiliedig,—daethom i Killmallock