yno yn gyflym, a chysgodai coed caeadfrig y ffordd y cerddem yn ol i'r orsaf. Cychwynnodd ein tren i'r fic,—mewn prydlondeb, mae'r Iwerddon ymhell o flaen Cymru, ac araf iawn yr ai dros y bont hir estynna tros afon y Dwr-du. Fel ei henw, felly mae dwfr yr afon yma, a thybiwn fod llygad y dydd yn fwy gwyn, a'r glaswellt dyfai gylch ei glan yn fwy gwyrdd, nag odid i ddim welais erioed. Hon yw Rhein yr Iwerddon, ac y mae llawer o ddilynwyr Strongbow a Chromwell wedi eu claddu ar ei glan, a gwnawd ei dwfr du droion yn rhudd gan waed y lladdedigion. Mae'n hanner milltir o led cyn arllwys i'r môr islaw tref henafol Youghal. Ar ei glan yno mae gardd Syr Walter Raleigh, lle y plannwyd tatws gyntaf yn yr ynys. Unwaith casglu afalau y tatws wneid. i'w bwyta, cyn deall mai yn y pridd yr oedd y ffrwyth, a byth er hynny hoff iawn gan y Gwyddel bytaten.
Mae ty Syr Walter Raleigh eto'n sefyll yno,—Myrtle Grove,—a danghosir lle byddai ei berchennog yn