gadael hen gastell Brisbane gododd Dermot Mac Carthy, yr oedd y wlad yn dod yn fwy rhamantas a gwyllt a'r mynyddoedd yn fwy uchel a garw,-rhedyn, brwyn, a cherrig, a gwartheg duon bach yn pori rhyng- ddynt, ac ambell ddafad, a bwch gafr yma ac acw, ac aderyn unig yn hedeg o garreg i garreg. Gorweddai cymylau gwynion ar gopâu y mynyddoedd fel na welem eu pennau, a rhedai nant ffrydiog, fel o'r cwmwl, yma a thraw ar hyd eu hochrau, a phan oeddym wedi ymgolli yn harddwch y wlad safodd y tren yn Killarney.
I un gwinglyd aflonydd nid cosbedigaeth fach yw cael ei gau yn un o ddwsin mewn cerbyd cul am saith awr, a da iawn oedd gan ddau newynog gael disgyn a meddwl am lety a diddosrwydd. Ychydig baciau feddem. Yr oedd Befan wedi llwyddo i roddi ein holl gelfi mewn screpan rhwng fy nwy ysgwydd, ac ymddiriedodd i mi hefyd umbarelo mawr, tra y cariai ffon anferth ei hun. Nid oedd gennym hanes llety.