throdd yr oll ond dau yn ol. Daliai y ddau hyn i'n dilyn o fewn hyd rhaff go gref, gan waeddi,—"Lodgings, sir, lodgings!" Gan fod y ddau eisieu i ni fynd i ddau le gwahanol, a ninnau ein dau ddim am wahanu, teimlem beth anhawster gyda pha un o'r ddau yr elem; ond trodd Befan yn ol a gofynnodd iddynt,—
"Allwch chi baffio? Pwy di'r mistar?"
"Y fi." "Nage fi."
Cyn i ni braidd droi heibio cornel y stryt honno, daeth un o honynt hyd i ni, a dywedodd wrthym, fel y gwnaeth wrth gannoedd o'n blaen, mewn iaith a gormod o ansoddeiriau ynddi i fod yn wir, ragoroldeb ei westy ef ar bob gwesty, nid yn unig yn y dref enwog honno, ond yn yr holl ynys; a phan yn siarad cadwai lygad sefydlog ar ffon Befan. O dan yr amgylchiadau dilynasom ef i weled. a oedd y pethau hyn felly.