yw hyd yr ynys,—nid ynys oedd yn naturiol, ond yn amser terfysg torrwyd y llinyn tir a'i hunai wrth ystad Kenmare. Daeth heddwch wedi hynny a thaflwyd pont dros y rhwyg dorrwyd, fel y gall y cerbydwr a'r pedestriwr fynd iddi'n hwylus. Rhed llwybrau a rhodfeydd yn brydferth. trwyddi, a thyf blodau o'u deutu'n dlws. Eisteddai dieithriaid dan y coed cysgodol pan giliai'r haul yn gyflym tua'r gorllewin, a safai ereill mewn cilfâchau ar y lan yn gwylio'r tonnau'n ymlid eu gilydd i ganol y llyn.
Mae ol yr Iberiad eto yn yr ynys yn chwilio am gopor, a darganfyddwyd ei forthwyl carreg a'i fwyall fflint pan ailagorwyd y gwaith yn 1804. Ond daeth dwfr i foddi'r pwll, ac erlidiwr i yrru'r Iberiad yn uwch i'r mynyddoedd, a chodwyd castell yn ddychryn i'r trigolion ar gwr yr ynys. Saif yr hen gastell a'i dŵr pedair ongl mewn gwisg of eiddew gwyrdd heddyw, a swn hiraethus sydd ym murmur y tonnau dyr yn ewyn ar ei furiau unig. Tybiwn