ef gan longau rhyfel. Clywodd Ludlow gyfrwys hyn, a dygodd gychod lawer o Castlemaine a rhwyfodd ei filwyr gylch y castell. Pani glywodd y rhai oedd yn y castell hynny, gollyngasant eu harfau i lawr, a rhoddwyd baner y Puritaniaid ar ben y tŵr heb un frwydr."
Wrth esgyn grisiau troiog y tŵr dywedai ein harweinydd am O'Donoghue fu'n byw yn y casteil ac yn arglwyddiaethu ar drigolion Kerry, ac adroddodd aml stori bert am y gŵr grymus hwnnw.
"Dyma," meddai, gan gyferio ei fys at ffenestr gul,—rhy gul mae arnaf ofni eirwiro'r traddodiad, "y ffenestr y llamodd O'Donoghue a'i farch trwyddi i'r llyn is law rhag ei ddal gan y gelyn."
Mae llawer o fân ynysoedd yn y llyn, ac y mae eu henwau braidd oll yn dal cysylltiad â'r cawr ddyn hwn. Gelwir un hen graig yn "geffyl" O'Donoghue,—mae'r marchog yng ngwaelod y dwr; ac y mae ei "stabl" yn ymyl, a danghosir hefyd ei "fwrdd," ei bwlpud," a'i "garchar."