Yn ymyl y castell mae cychod ar log, a rhwyfasom yn un o honynt i Ynys Inisfallen,—lle y bu Finian Sant, hen ddisgybl i Awstin Fynach, fyw a marw. Afraid yw dweyd mai hon yw Ynys brydferthaf Lough Leane,—y Llyn Dysg,—canys y mae'r ffaith ddarfod i'r mynach godi ei dŷ ynddi a byw arni cyhyd yn profi hynny. Dewisai'r mynach y llecyn harddaf ymhob man i osod ei linynnau i lawr. Felly y gwnaeth yng Nghymru,—yn Ystrad Fflur a'r Faner,—a gwnaeth yr unwedd yn yr Iwerddon, Sefydlodd ar ynys fechan werdd a ffrwythlawn, ac ni chlywail ddim o honi i aflonyddu ar ei weddi ond su y tonnau ar y lan, a murmur y nentydd a red hyd lethrau mynydd Mangerton pan lifent. Mae muriau'r mynachty yno eto. Ni adeiladwyd hwy'n gadarn erioed, gan yr ystyriai'r mynach fod y dwfr a'i hamgylchai a'r parch dalai'r trigolion iddo yn ddigon o ddiogelwch. "Edrychid ar yr ynys erioed," medd yr hanesydd, "fel paradwys a lle sanctaidd a diogel, a chedwid ynddi drysorau
Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/52
Gwedd