a phethau gwerthfawrocaf y wlad." Ond er mor gysegredig ydoedd, daeth mab O'Donoghue yno. yn 1180, gan ladd a difa yn ei afiaeth, "a Duw yn fuan a gospodd," ebe'r hanesydd, "am y gwaith erchyll a'r brad trwy ddwyn yr euog i fedd anamserol." Mae'r hen lawysgrifau,—Croniclau Innisfallen—sydd heddyw yn y Bodleian, ddarganfyddwyd yno, yn bwysig iawn i'r hanesydd Gwyddelig, am mai ynddynt y ceir ffeithiau cyntaf hanes y wlad. Adeilad hirgul oedd y mynachty, a drysau isel ddysgai ostyngeiddrwydd i'r byrraf ei gorff. Yn ymyl y capel mae beddau y rhai addolent ynddo unwaith, ac ar rai o'r cof feini mae llythrennau Ogamaidd aneglur, a gwelais ar un o honynt groes y Cristion, yn dangos mai i'r Iesu yr ymddiriedodd y gŵr sydd dani ei enaid. Gwnaeth y mynach hefyd yn ei oriau hamddenol ffordd wedi ei phalmantu o gylch yr ynys. Pan oeddym ar adael yr ynys daeth deu-ddeg o Saeson yno, arweinid gan Wyddel pert, ac aethom trwyddi eilwaith gyda hwy.