ebai teithwyr, ac mewn man arall danghosodd chwech o wahanol brennau yn tyfu o'r un cyff.
"Dilynwch fi," meddai, "i lannerch fwyaf cysegredig yr ynys sanctaidd yma." Tynnodd ei het, a chwalai y gwynt yr ychydig wallt gwyn feddai fel y mynnai. Wedi cerdded cwrs, safodd wrth goeden hen a'i gwraidd yn dechreu pydru.
"Yma," meddai, dan y goeden hon mae bedd Finian Sant. Yma y ciliodd o ddwndwr byd, ac yma y gorwedd tan gân udgorn acw i ddweyd wrth y tonnau na raid iddynt suo ei alargan yn hwy, a'i alw yntau at Mair a'i Mhab." Yr oedd teimlad yn llais yr hen Wyddel pan siaradai hyn; yna penliniodd ar un glin wrth y bedd. Rhoddodd ei het dyllog ar y lin arall, a'i benelin arni, gan ddal ei law dan ei ben gwyredig, ac wedi torri croes ar ei dalcen â'r llaw arall, estynnodd hi allan, gan ei dal mor llonydd a'r un hunai dano, a sibrydai rywbeth tebyg i hyn yn iaith bugeiliaid y mynyddoedd,—"Cwsg, Finian, cwsg. Aeth dy