Pren sydd yn perthyn yn neilltuol i'r rhannau hyn yw'r arbutus; gwneir dodrefn hardd o hono, a gwerthir hwy am bris uchel. Tyf yn ganghennog, a chyn uched â'r fasarnen, ac yr oedd ffrwyth o liw dengar arno; ond ni fwyteais hwy rhag i'm cyflwr fod cyn waethed a milwyr Xenophon, fwytaodd y cyfryw ffrwyth ar eu taith yn erbyn y brenin mawr" gynt. Dan un o'r coed hyn eisteddai hen wraig werthai fân deganau. Deallodd hon, wrth ymddiddan ag ef, yn fuan fod gan Befan chwaer, a dandwyrodd ef i brynnu brooch, a daeth y wên a'r llythyr eto i'm cof.
Tua milltir wedi gadael Killarney mae Gwesty Brenhinol y Frenhines. yn guddiedig yn y coed. Gwagenni'n llawn o wair glas glas elai ato y bore hwnnw, a phobl heb nemawr o'r gwaed brenhinol yn eu gwythienau,—pe gwaeth er hynny,—a'u dilynent. Golwg dibris iawn oedd ar y wagner. Yr oedd ffurf ei ben yn drionglog, ac anhawdd oedd gweld ei gap ar ei goryn hir. Gwisgai ei ardysau'r ochr allan, a