Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhyw gymysgedd ryfedd yw olion Aghadoe,—eglwys, castell, a thŵr crwn. Mae ychydig feddau o fewn muriau yr eglwys. Adeiladwyd un rhan o'r eglwys, meddir, yn y seithfed ganrif, ac mae hen ffenestr ar gynllun y Rhufeiniwr ynddi,—rhyfedd hynny, gan na fu Rhufeiniwr yn yr ynys! Cywrain iawn oedd y llaw gerfiodd ei phileri, ac a wnaeth y rhwyd-waith ar ei bwâu. Perthyn i'r drydedd ganrif ar ddeg mae y rhan arall o honi, a chul iawn yw y ddwy ffenestr sydd ynddo. Cofleidiai eiddew ei muriau maluriedig, fel pe'n ceisio cadw y meini mor hir ar eu gilydd ag oedd modd, ynte rhag iddynt dorri allan a dadlennu'r gorthrwm ddioddefodd y rhai fu yno'n addoli, pan gyhoeddwyd i'r Gwyddel, fel y gwnawd i'r Cymro'r un adeg, na chai glywed yr efengyl yn yr unig iaith a ddeallai; a phan fu raid i'r trigolion ffoi i'r mynyddoedd oddi wrth y bobl greulawn feddent iaith ddyfnach nag a ddeallent," at y mynachod crwydredig, i'w clywed yn cyhoeddi Crist a'i groes