Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynyddoedd cyn ymarllwys i'r llyn, a swn olwynion cerbydau'r Saeson gyflymai i fyny'r Bwlch glywem. Islaw'r oedd Llynnoedd Killarney yn ymestyn o'r golwg tua'r dwyrain. Yr oedd ambell ran o'u glannau'n goediog fel glannau Llyn Tegid, a rhannau ereill cyn foeled ag ochr Llyn y Fyrnwy. Tua chodiad haul elai'r mynyddoedd yn llai, tua ei fachludiad yn fwy,-rhyw Benfro ac Eryri ochr yn ochr. Dacw fugail â'i gi yn dod o godi'r defaid, af ato i holi y ffordd.