Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â'i gwaelod yn wellt,—er fod yr oll o'r defnydd hwnnw wedi colli, a dibris iawn o'i gorff fyddai y dyn hwnnw eisteddai arni. Yn nhalcen arall y tŷ, lle ceir cwpwrdd gwydr yn gyffredin yng Nghymru, yr oedd bocs mawr anghelfydd ei wneuthuriad, a darnau o breniau culion ar ei wyneb fel rhesel,—tebyg i gut ffesant, a rhwng y rhai hyn gwthiai ieir a cheiliogod eu pigau allan i weld y dieithriaid neu i ddisgwyl ymborth, ac ychwanegai pob pig ei goreu at y twrw ddeuai o'r bocs, ac ni fu brain coed Cerrig Llwydion erioed mor uchel eu clochdar. Nid oedd na phapur na phictiwr ar yr un o furiau y tŷ, ac yr oedd y calch rhwng y cerrig heb ddim ond ei ol yn aros, a chredaf fod disgynyddion y pryf copyn cyntaf wnaeth ei we ar y trawst, pan osodwyd ef yno, wedi cael perffaith heddwch o ach i ach i fwynhau eu hen gartrefle. Nid oedd ffenestr yn ochr y tŷ oedd i'r tywydd, ac ar y mur hwnnw'r oedd silff fer ac ychydig lestri alcan glân arni,—plâts a bowls; a chwpwrdd bach,