Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bronwen ferch Brân Fendigaid adael Cymru a gwŷr Ynys y Cedyrn i ddioddef sarhad yn yr Iwerddon,—Ai hi yw hon? Na, cafodd y Fronwen honno fynd adref i Gymru i farw druan, a huna ym murmur afon Alaw ym Mon. I foddhau cywreinrwydd gofynnais ai yno y ganwyd hi.

"Nage," meddai, ond yr wyf yma. er ys deuddeng mlynedd, er pan briodais yn ddeunaw oed."

"Ydych chwi'n hapus ?"

"Yn berffaith hapus. Gallaswn briodi yn well mae'n wir, ond penderfynais na phriodwn arian byth, ond un wnai ddwy galon yn un,—a Healy y bugail oedd hwnnw." "Fu'n edifar gennych?"

"Na dim un awr, er i mi fod gwrs yn dod i ddull y mynyddwyr o fyw."

Er holi ei hanes cyn priodi yr oedd yn ofalus i beidio ei adrodd, ond amlwg oedd ei bod wedi aberthu cyfoeth a sefyllfa er cael y gŵr a garai. Ond trodd Befan y scwrs a gofynnodd,—

"Faint gewch am y menyn?"

"Wyth geiniog y pwys."