"Ydi'r gwartheg yn llaetha yn dda ?"
"Ydynt yn bur dda. Y Kerries, gwartheg duon bach, sydd gennym yn y cymoedd hyn. Ond cadwai fy nhad Yorkers,—y Kerries a gwartheg o Yorkshire wedi eu croesi. Gwartheg braf yw y rhai hyn, a rhoddant bedair galwyn y dydd o laeth, ond y maent yn rhy rywiog ar ein tir ni."
Buwyd yn daer arnom gymeryd bwyd, ond gwyddem am helyntion. diwrnod golchi, ac fod gennym daith hir cyn nos, ac ymadawsom â gwraig fwyn a phlant bach Ardenloe ar y telerau goreu. Wedi mynd i ben y grimell, ar hyd ffordd gario mawn, garegog, daethom i olwg amryw o fân dyddynod, tebyg i dai unos, a chaeau gwair bychain o'u cylch; ac yn un o'r caeau hyn yr oedd gwraig pob tyddyn feddyliwn yn cweirio gwair. Yr oedd deg o honynt yn troi gwair melyn hen. Disgynnai eu cribiniau ar y gwair yr un adeg, a chodent eu sodlau gwynion noethion ar unwaith. Gwisgent shawl goch dros eu