hysgwydd, ac ymddanghosent o bell fel milwyr profedig yn ymdaith. Pan aethant i ben arall y cae, troesant yn ol gyflymed a deheued a phetai swyddog milwrol yn gwaeddi "Right about face!" arnynt. Ond pan welsant y ddau lefnyn main yn dynesu atynt, safasant gan edrych am ennyd mor syn a hwrdd mewn mieri,—taflasant eu cribiniau a rhedodd pob un gyflymed ag allai i'w thŷ.
Wel, yr oedd yn bryd i ninnau sefyll. Cofiais wrth weld yr ugain gwadan gwyn gyflymai adref, am ddarluniad Homer o'r cwn traed wynion y saethai Apollo atynt yn ei ddig. Ond ni feddem ni na bwa na saeth, a methem ddyfalu pa gynllun gymerem.
"Fase well i ni fynd yn ol i'r ffordd ?"
"Oes arnom ofn merched?" ebe Befan. "Gwelais ferched ifanc yn sir Fon yn ceisio am y drws cefn yn bur gwic rhag i mi eu gweld yn gweithio allan. Swil ydynt, awn ymlaen."
"Ond beth pe base eu gwŷr yn—