chyfarchiad. Erbyn hyn yr oedd y gweddill wedi ein hamgylchu, a chystadlent mewn dal eu llestri budron am yr agosaf atom. Yr oedd arnaf eisieu bwyd, ond adlewyrchai gwynebau y gwragedd a'r llestri ar y llaeth, neu pylai fy ngolwg nes peri i'm gredu nad oedd y llaeth yn lân. Rhaid i ddyn, ebe gwyddonwyr, fwyta peciaid o lwch, ond tybiwn os rhaid hynny, mai doethach ei gymeryd fesur ychydig nac ar un-waith, a pheth arall, nis gallwn gymeryd ond llaeth gan un, a sut y cytunwn â'r naw?
Gofynnais a allent ganu.
"Canu. Gallwn!" ebe perchen y gunnog.
"Ydi'r hen delyn Wyddelig mewn bri yma eto?"
"Ydyw; ond a nifer y chwareuwyr yn llai a nifer y telynau heb dannau yn fwy y naill flwyddyn ar ol y llall,"
"Allwch chwi ambell bennill telyn?"
"Gallwn ambell un. Canwch bennill i'r jintlmen, Shian O'Neill,"