yr unto âg ef, ac yr oedd y moch a'r chwid yr un mor gynefin â'r naill ac â'r llall. Na feddylied neb mai casineb at y Gwyddel bâr i mi ddweyd hyn,—pellaf peth yw hynny o fy meddwl. Y Babaeth sy'n cadw'r Gwyddel yn y llaid, a chymer y tirfeddiannwr fantais ar hynny i'w bwyso iddo. Pa bryd y daw cymoedd Kerry mor lân a chymoedd Cymru? Mae y mynyddwyr yn byw yn hen iawn. Mae'r merched yn dlws pan yn ieuanc, ond hagr erwin ydynt pan heneiddiant, ac yma y gwelais yr hyllaf welais erioed. Hen wraig oedd, yn sefyll wrth dalcen y beudy. Yr oedd yn anhawdd cael syniad am ei ffurf,—yr oedd mor wyrgam a musgrell. Yr oedd y rhychau dyfnion oedd yn ei gwyneb wedi eu llenwi gan faw, fel mai anhawdd penderfynu pa liw oedd ei chroen pan aned hi,—gallesid hau gwely wynwyn yn hawdd ar ei thalcen, a dwy res o foron bobtu i'w thrwyn. Nid hawdd oedd gwahanu'r buarth a'i thraed pan safai, ac ofnadwy oedd ei golwg pan syllai trwy ddau dwll lle
Tudalen:Yng Ngwlad y Gwyddel.djvu/93
Gwedd