bu llygaid arnom. Symudai ei gên pan geisiai lefaru'n afrosgo fel petai y gewynau a'i gyr wedi cancro, a lliw lludw mawn oedd ar ei hanadl hi. Ymddanghosai i mi fel un wedi codi o un bedd, ar ol canrif o orffwys, ar ei ffordd i ymolchi cyn syrthio i fedd arall. O'r genawes! Gwae fi dy weld erioed! Gwelaf di lawer gwaith eto mewn hunllef. Fel y diflannai o'r golwg, elem trwy anialwch o gerrig a brysgyll, a hapus oedd cofio wrth deithio'r fath le fod Patrig Sant wedi lladd yr olaf o seirff yr Iwerddon a'i thaflu i'r Llyn Du. Daethom i lawr at dŷ bychan, a delai y mŵg, wedi chwilio pob cornel o'r tŷ, allan ffordd yr elem ninnau i fewn. Trwy y mŵg gwelem wrth y tân ferch yn tylino, a baban wrth ei hymyl, mewn cawell pysgota.
"Pobi sy' ma?"
"Ie," ebai, tra yr hedai chwiaden heibio 'mhen allan. "Ond mae'r mŵg yma'n gas! Gallech feddwl ein bod yn ffrindiau mawr gyda'n gilydd gydol y dydd."
"Ydech chi yma ers talwm?"