VI.—BWLCH DUNLOE.
CHWYTHAI y gwynt i'r gogledd, elem ninnau yn araf tua'r de a Bwlch rhamantus Dunloe. Yr oeddym wedi gadael y fferm olaf,—y plant yn codi tatws, y wraig yn pobi, a'r gŵr yn segura. Dirwynai ein llwybr trwy le tra hagr, dan lethr llechweddau caregog, a rhedyn a grug yn ceisio ymwthio rhwng y cerrig aml. Ond yr oedd y ffordd mewn cyflwr da gan gymaint y teithio sydd arni, a drwg oedd gennyf, wrth ei gweld felly, nad oedd fy ngheffyl haiarn gyda mi. Os oes gennyt fis neu lai, ddarllennydd hynaws, i'w hebgor yng ngwyliau'r haf, nis gwn am un man mwy dymunol iti i'w dreulio na rhwng mynyddoedd Kerry, nac am bobl garedicach, ychwaith, i gydfyw â hwy na'r trigolion. Mae'r ffyrdd yn rhagorol i gerdded neu olwyno,—ffyrdd tebyg i'r un a gyda glannau y Teifi, neu o Dy Ddewi i