Hwlffordd, neu yr un adawa ochr Llyn Tegid am Ddolgellau, geir yno.
Yr oedd yr haul wedi mynd dros hanner ei gwrs pan eisteddem ar ganllaw pont gerrig henafol,—yr oedd cerrig ei bwa gymaint ar eu cyllell braidd a rhai Pont y Gŵr Drwg. Ni welais ddwfr mor ddu erioed na'r nant elai tanom, nac ewyn mor wyn a'i hewyn hi,—yr oedd fel dannedd gwynion dyn du. Wrth dalcen y bont tyfai bedwen arian a mwswg melyn fel gwythiennau aur gylch ei bôn. Hawdd fuasai breuddwydio amser heibio mewn lle mor unig a thawel ac mor gyfoethog mewn golygfeydd.
Ymledai deheudir yr Iwerddon o'n blaen,—faint o orthrwm a thrais fu ynddo? Diwrnod cymylog a niwliog oedd diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg yma. Yr adeg hynny rhoddodd y Llywodraeth y tir, i gadw trefn ac i Seisnigeiddio, i nifer o anturiaethwyr o orllewin Lloegr,—rhai hynod am bechod a chreulondeb, ac nid y lleiaf yn hyn oedd Peter Carew anllad. Meddai ef